Wales
Ym mis Gorffennaf 2008 dyfarnodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) arian i’r Sefydliad Ffiseg i redeg y fenter Hybu Ffiseg yng Nghymru. Yn wreiddiol roedd Hybu Ffiseg (Stimulating Physics) yn fenter a gâi ei hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, a bu’n rhedeg yn Lloegr o fis Mai 2006 i fis Gorffennaf 2009. Nod y fenter oedd darganfod ffyrdd o gynyddu nifer y myfyrwyr a oedd yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn ffiseg ac a oedd yn mynd ymlaen i ennill gradd mewn ffiseg. Cymerodd Hybu Ffiseg yng Nghymru bum llinyn o’r fenter wreiddiol i’w defnyddio yng Nghymru, ac ychwanegodd un llinyn a oedd yn addas i fuddiannau lleol. Dewiswyd ystod eang o brosiectau. Roedd rhai ohonynt yn ymwneud â dangos ffiseg ar waith, mewn diwydiant a thrwy weithgaredd a oedd yn canolbwyntio ar fenter yng nghyd-destun ffiseg. Roedd prosiectau eraill yn fwy perthnasol i’r ystafell ddosbarth, ac yn ymwneud â chynnig cymorth i athrawon nad oes ganddynt arbenigedd ac edrych ar waith pontio rhwng Safon Uwch a gradd.
Dyma’r chwe llinyn:
- Y Cynllun Cymrodoriaethau i Athrawon
- Cymorth i Athrawon
- Ymweliadau â Diwydiant
- Rhwydweithio Ar-lein
- Gyrfaoedd a Menter
- Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Y camau nesaf
Mae rhai elfennau’n parhau yn y Rhaglen STEM Addysg Uwch Genedlaethol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y rhaglen honno trwy fynd i: www.hestem.ac.uk/ Gellir cael gwybodaeth am y gwaith a wneir gan y Sefydliad yn rhan o’r rhaglen yma.
